Shopping Queer     Our creatives       LGBTQ+ Directory       News      About      Join us     Contact us    ︎






Cynorthwyydd awDHD (lawrydd)



£25 yr awr
Cyfanswm y tal:
£2,400
Cyfanswm yr oriau:
96 o oriau dros gyfnod o flwyddyn (Awst yn rhydd)
Cyfartalog:
8-10 awr y mis
Dyddiad cau: 5yp, Dydd Gwener 13 Mawrth



  • 1 awr pob wythnos ar gyfer cynllunio ac amserlenni
  • 1 awr y mis yn ychwanegol ar gyfer cymorth cyfarfodydd

Oriau i gael eu trefnu’n hyblyg gan gytundeb. Efallai bydd angen mwy o oriau mewn rhai misoedd nag eraill.

Mae gweithio’n rhithiol yn bosib, gyda chymorth mewn person ar adegau gyda chytundeb.


Ynglŷn â On Your Face:

Mae On Your Face Collective yn sefydliad celf cefn gwlad wedi’i leoli yng Nghymru sy’n cefnogi artistiaid LHDTC+ ac niwroamrywiol, a chymunedau ar draws Cymru. Arweinir gan pobl cŵiar a niwroamrywiol, rydym yn hyrwyddi ymarfer cynhwysol sy’n canoli celf, ac yn gweithio tuag at creu cyfleoedd ystyrlon a hygyrch ar gyfer pobl creadigol. Rydym yn cynnal cyfeiriadur o artistiaid ac ymarferydd sy’n tyfu o hyd, ac yn rhannu cyfleoedd a chefnogi datblygiad proffesiynol, tâl teg, ac ymgysylltiad cymuned. Mae ein gwaith yn cynnwys digwyddiadau a chafodd ei arwain gan artistiaid, rhaglennu, arddangosfeydd a phrosiectau sy’n ffocysu ar gymuned.

Rydym wedi derbyn cyllid Camau Creadigol gan y Cyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi'r cam nesaf o ddatblygiad ein sefydliad. Mae’r cyllid hon yn galluogi ni i gryfhau ein gallu mewnol trwy hyfforddi, a gan adolygu a diweddaru ein polisïau, gweithdrefnau a systemau, yn helpu ni i sefydlu ffyrdd gweithio fwy effeithlon a cynaliadwy.



Ynglŷn â'r rôl:

Bydd y Cynorthwyydd awDHD yn gweithio’n agos gydag un o’r Cyfarwyddwr OYF, yn darparu cymorth ymarferol, strwythuredig fel rhan o’r grant datblygu sefydliadol eleni. Dyluniwyd y rôl i gefnogi arweinyddiaeth gynaliadwy gan helpu gyda thasgau swyddogaeth weithredol ac wrth greu systemau sy’n gwneud y gwaith mwy hylaw.

Dros y flwyddyn byddwn ni’n gweithio ar draws sawl ardal ar yr un pryd ac yn ymgysylltu gyda nifer o bartneriaid allanol yn rheolaidd. Mae’r ffordd hon o weithio’n gallu creu anawsterau penodol ar gyfer arweinyddiaeth niwroamrywiol, yn enwedig pryd mae angen canolbwyntio, blaenoriaethu, a’r gallu i newid rhwng tasgau.

Bydd y Cynorthwyydd awDHD yn darparu cymorth ymarferol gyda nodiadau cyfarfod, cynllunio, blaenoriaethu tasgau ac amserlenni. Bydd y cymorth hwn yn helpu’r Cyfarwyddwr gyda llwyth gwaith newidiol, cadw canolbwyntio, a chadw golwg ar flaenoriaethau.

Bydd y rôl yn gweithio wrth ochr y Cyfarwyddwr i ddarnio gwaith cymhleth mewn i dasgau eglur a cyraeddadwy, cynnal momentwm a lleihau llwyth meddyliol yn ystod cyfnod o newidiant sefydliadol.



Cyfrifoldebau Allweddol


Cynllunio & Cymorth Tasgau

  • Cymorth gyda chynllunio wythnosol a threfnu sesiynau i flaenoriaethu tasgau a rheoli llwyth gwaith
  • Cymorth gydag ymwybyddiaeth amser, dyddiadau cau, a dilyn trwy ar weithredai.
  • Cymorth wrth greu a chynnal systemau syml ar gyfer tracio tasgau a threfn.


Cymorth Cyfarfod

  • Mynychu cyfarfodydd a gytunwyd (ar-lein neu wyneb yn wyneb) i ddarparu cymorth yn ôl yr angen.
  • Cymryd nodiadau clir, strwythuredig a thynnu sylw at gamau gweithredu allweddol, penderfyniadau a dyddiadau cau.
  • Cefnogi dilyniant ar ôl cyfarfodydd drwy egluro camau nesaf a blaenoriaethau.


Cymorth Gweinyddol

  • Efallai y bydd ysgrifennu e-byst yn ofynnol o bryd i'w gilydd.


Cymorth Swyddogaeth Weithredol

  • Cefnogi canolbwyntio, trefniadaeth, a gwneud penderfyniadau mewn ffordd heb beirniadaethl.
  • Addasu dulliau cymorth yn seiliedig ar yr hyn sydd fwyaf effeithiol i'r Cyfarwyddwr.


Hanfodol


  • Profiad o gefnogi unigolion AwADHD ac/neu bobl gyda heriau swyddogaeth weithredol
  • Aelod o gymuned LHDTC+
  • Sgiliau trefnu ac arwain heini
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar cryf
  • Profiad o gefnogi ac/neu arwain prosiectau
  • Sgiliau gwrando a chyfathrebu rhagorol
  • Gallu gweithio'n gydweithredol, yn barchus, ac yn gyfrinachol
  • Addasol ac yn ymatebol i anghenion unigol


Dymunol


  • Profiad yn cefnogi arweinydd, cyfarwyddwyr, neu sylfaenydd mewn sefydliadau bach, elusennau, neu grwpiau dan arweiniad cymunedol
  • Rhywfaint o brofiad neu ddiddordeb mewn datblygu sefydliadol, newid systemau, neu adegau o drawsnewidiad sefydliadol
  • Dealltwriaeth o'r llwyth meddyliol sy'n gysylltiedig â chytbwysedd cyfrifoldebau strategol a dydd-i-ddydd
  • Diddordeb yn y celfyddydau a brwdfrydedd dros waith a gwerthoedd OYF


Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 5yp Dydd Gwener 13eg o Fawrth

I wneud cais, danfonwch eich CV a llythyr eglurhaol (Cynorthwyydd awDHD) i onyourfacecollective@gmail.com



Cliciwch yma i lawrlwytho pdf yn y Gymraeg









On your face, 2021